Cynllun Mentora Cymheiriaid Ymchwil Ôl-raddedig


Cynllun Mentora Cymheiriaid Ymchwil Ôl-raddedig (Coleg Peirianneg ac Ysgol Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Abertawe) 

Trwy gwblhau'r holiadur hwn, rydych yn rhoi eich cydsyniad i ni gasglu, defnyddio a chadw'r data personol rydych chi'n ei roi at ddibenion gweithredu'r cynllun mentora cymheiriaid ymchwil ôl-raddedig.  Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio ar gyfer y cynllun mentora cymheiriaid ymchwil ôl-raddedig yn unig, a bydd yn cael ei chadw o'r adeg rydych yn cwblhau'r holiadur hyd at ddiwedd blwyddyn academaidd 2019/20. 

Ar ôl cwblhau'r holiadur hwn, cysylltir â chi i gwblhau sesiwn hyfforddiant mentora cymheiriaid orfodol. 

Ar ôl cael eich hyfforddiant i fod yn fentor, rydych yn rhoi eich cydsyniad i ni rannu'r wybodaeth rydych yn ei rhoi yn yr holiadur hwn â myfyrwyr ôl-raddedig, ôl-ddoethuron a staff yn y Coleg Peirianneg. Caiff yr wybodaeth hon ei rhannu er mwyn galluogi ôl-raddedigion ac ôl-ddoethuron sydd â diddordeb i gysylltu â chi fel mentor cymheiriaid.

Defnyddir y data personol hwn yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, a'ch caniatâd chi yw'r sail gyfreithiol dros brosesu'ch data personol. Gallwch newid neu dynnu'ch cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg drwy gysylltu ag EngQuality@abertawe.ac.uk. Gweler dogfen polisi Diogelu Data'r Brifysgol (https://www.swansea.ac.uk/media/Data-Protection-Policy.pdf) i gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau. 

Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau eraill yn ysgrifenedig i Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol:

Swyddog Cydymffurfiaeth y Brifysgol (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data), Swyddfa'r Is-ganghellor, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP

E-bost: dataprotection@abertawe.ac.uk  
 

Mae 11 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.