Y DYDDIAD CAU AR GYFER CYFLWYNO'R FFURFLEN GAIS - Dydd Sul 19 Chwefror 2023
Os oes ymholiadau, cysylltwch â:
E-bost: stepup@abertawe.ac.uk
Ffôn: 07922 000415
Er mwyn bod yn gymwys, mae angen i chi fodloni o leiaf un o'r meini prawf canlynol:
• Byw mewn côd post MALIC40
• Bod mewn gofal, neu wedi byw mewn gofal ar un adeg*
• Bod yn ofalwr
• Bod wedi'ch dieithrio o'ch rhieni
• Bod â rheini sy'n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, neu sydd wedi gwneud hynny
• Bod ag anabledd dysgu neu gorfforol, gan gynnwys salwch hirdymor
• Bod heb brofiad o'r brifysgol yn y teulu
Os nad ydych chi'n siŵr a ydych chi'n bodloni'r meini prawf hyn, mae croeso i chi gyflwyno cais a gallwn archwilio'r mater ymhellach.
Sylwer y rhoir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy'n bodloni o leiaf un o'r meini prawf hyn, ond nid yw bodloni'r meini prawf uchod yn gwarantu lle ar y rhaglen gan fod nifer cyfyngedig o leoedd.
*Gwahoddir ceisiadau gan fyfyrwyr ledled Cymru sydd mewn gofal, sy'n gadael gofal neu sy'n brif ofalwyr yn eu teuluoedd.
Sylwer, oherwydd cyfyngiadau o ran ariannu, mae'r rhaglen yn cadw'r hawl i ddiwygio, tynnu'n ôl, canslo, newid neu gyfuno unrhyw raglen, leoliad neu gyfleuster, neu ran ohonynt, ar unrhyw adeg.