Elyrch 100 – Prosiect Canmlwyddiant Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe

Elyrch 100 – Prosiect Canmlwyddiant Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe


 

FY ELYRCH I – HOLIADUR I GEFNOGWYR

A wnewch chi lenwi’r holiadur os gwelwch yn dda, gan ateb cynifer o’r cwestiynau â phosibl, er nad yw rhai efallai yn berthnasol i chi. Os oes angen mwy o le arnoch, neu os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu, yna gwnewch hynny yn yr adran Amser Ychwanegol ar y diwedd, os gwelwch yn dda. Cymrwch eich amser – mae croeso i chi ysgrifennu cymaint ag y mynnwch ym mhob blwch.

 

BYDDWCH YN RHAN O HANES EICH CLWB PÊL-DROED!

Bydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn dathlu canmlwyddiant pêl-droed proffesiynol yn Abertawe ym mis Medi 2012.  Mae’r clwb pêl-droed wedi bod yn rhan o wead y ddinas, ac yn rhan bwysig o fywyd cymdeithasol ac amser hamdden cenedlaethau o ddinasyddion. Mae dylanwad y clwb hefyd yn lledu y tu hwnt i Abertawe’n unig, gan fod llawer o gefnogwyr yn dod o rannau eraill de a gorllewin Cymru.

Mae Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Pêl-droed Abertawe, wedi derbyn grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri i greu archif ar-lein o brofiadau cefnogwyr dros gymaint o’r 100 mlynedd diwethaf ag sy’n bosibl. Bwriad y prosiect yw darganfod yr hyn mae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ei olygu i’r gymuned, trwy gofnodi atgofion a straeon y selogion. Hoffem gyflawni hyn trwy ofyn i bobl lenwi holiadur (naill ai ar bapur neu ar-lein); i chwilio am bethau cofiadwy (rhaglenni, sgarffiau, ffotograffau, ac ati) y gallant eu cofnodi, ochr yn ochr â’u straeon; ac i wirfoddoli i helpu’r prosiect trwy gyfweld cefnogwyr eraill i ychwanegu recordiadau hanes llafar i’r archif, neu ein helpu i ddarganfod a chopïo dogfennau a ffotograffau.

Mae’r holiadur yn cynnwys cyfres o gwestiynau i’w hateb yn ysgrifenedig – nid yw’n arolwg ticio’r blychau, nac yn arolwg dewis amrywiol chwaith. Dyma eich cyfle i gofnodi eich profiadau o gefnogi Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Wedi rhai cwestiynau sylfaenol amdanoch chi, mae tri gr?p o gwestiynau yn dilyn.

Er i’r holl beth ganolbwyntio ar hanes y clwb a’i gymuned o gefnogwyr, mae gennym ddiddordeb hefyd yn y newidiadau mewn patrymau ymddygiad, hamdden a chefnogaeth yn ystod y can mlynedd diwethaf. Rydym eisiau dal ystod mor eang â phosibl o brofiadau. Nid yw’n ddiben gennym glywed am atgofion melys yn unig  – rydym yn gobeithio y bydd yr amrediad o brofiadau yn adlewyrchu llanw a thrai bywydau cefnogwyr, yr angerdd, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau.

Fel rhan o ddathliadau’r Canmlwyddiant, mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe hefyd yn cyhoeddi cyfres o lyfrau a fydd yn adrodd hanes yr Elyrch. Mae’n bosibl y bydd eich atebion i’r holiadur yn cael eu defnyddio mewn un o’r llyfrau hyn ac mewn cyhoeddusrwydd a chyhoeddiadau eraill y prosiect.

Wrth anfon eich holiadur wedi ei gwblhau yr ydych yn cytuno bod eich atebion yn cael eu defnyddio yn yr archif ar-lein ac mewn unrhyw gyhoeddiad neu ymchwil canlynol. 

Mae 38 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.