Rhaglen Cymorth i Raddedigion 2- Ffurflen Diddordeb Dwyieithog


(Nod y ffurflen hon yw ein helpu ni i gefnogi Graddedigion Prifysgol Abertawe gael mynediad at ein Rhaglen Cymorth i Raddedigion a'i gwneud hi'n haws i chi roi eich gwybodaeth gyswllt i ni i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y gallwn ei roi i chi. 


Rydym hefyd am wirio ein bod yn cyrraedd y bobl gywir, nod Prifysgol Abertawe yw cael amgylchedd cynhwysol i'r holl staff a myfyrwyr, drwy nodi a dileu rhwystrau yn ein hymarferion. Bydd cwblhau'r ffurflen fonitro hon yn ein helpu i gyflawni hyn.

Er ei bod hi'n wirfoddol datgelu'r wybodaeth hon, drwy wneud hynny byddwn yn deall cyfansoddiad y rhai rydym yn ymgysylltu â nhw. Caiff eich atebion eu trin yn hollol gyfrinachol a bydd yr holl ddata a ddarperir yn cael ei drin yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) 2016 a Deddf Diogelu Data 2018.

Mae 11 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.