Rydym yn gwahodd cymunedau yng Nghastell-nedd Port Talbot i gymryd rhan mewn prosiect Seilwaith Gwyrdd a ariennir gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, a arweinir ar y cyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Phrifysgol Abertawe.
Bydd cyfranogwyr yn helpu i lywio penderfyniadau'r prosiect ynghylch gwelliannau i barciau a gwaith i ddatblygu a gwerthuso Ap Seilwaith Gwyrdd.
Mae Prosiect Cronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot i wella Parc Brenin Siôr V, Pontardawe. Byddem yn gwerthfawrogi mewnbwn gan y gymuned leol er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o welliannau sydd eu hangen a dyheadau.
I gael rhagor o wybodaeth am ein prosiect, cysylltwch â thîm y prosiect ym Mhrifysgol Abertawe yn RoadmapGI@swansea.ac.uk.