Diolch am gytuno i gymryd rhan yn yr arolwg hwn. Ni ddylai gymryd mwy na 5 i 10 munud o’ch amser.

Mae’r arolwg yn rhan o brosiect i ddatblygu Cwricwlwm Cynhwysol yma yn Abertawe. Er mwyn rhoi rhywfaint o gefndir i chi cyn i chi gwblhau’r arolwg rydym wedi cynnwys diffiniad o gwricwlwm cynhwysol.

Mae cwricwlwm cynhwysol yn gwricwlwm lle bo staff a myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod ganddynt yr un cyfleoedd i gyrraedd eu potensial academaidd er gwaethaf oed, anabledd, rhyw neu ailbennu rhywedd, cyflwr priodasol neu bartneriaeth sifil neu os oes plant gennych, hil, crefydd neu gredoau, tueddfryd rhywiol, neu amgylchiadau personol eraill.

Mae mewnosod cynhwysedd yn y cwricwlwm yn golygu sicrhau bod gan yr holl fyfyrwyr, gan gynnwys y rhai hynny ag anableddau, fynediad at yr un adnoddau dysgu a chyfle cyfartal ar gyfer llwyddiant. Mae’n golygu bod materion amrywiaeth a chydraddoldeb wedi’u hymgorffori ym mhob agwedd o’r cwricwlwm a bod ymrestru yn y Brifysgol yn hollgynhwysol.

Mae datblygu cwricwlwm cynhwysol hefyd yn ymwneud ag adnabod a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a all atal grwpiau o bobl rhag ymgymryd yn llawn neu rhag cyrraedd eu potensial academaidd.

Mae’r arolwg hwn yn edrych yn benodol ar ddarpariaeth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau.

Mae 15 o gwestiynau yn yr arolwg hwn.